Cais/awgrymu newid(iadau) terfyn cyflymder 20mya
Yn dilyn y newidiadau i derfynau cyflymder, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adolygiad o’r canllawiau terfyn cyflymder 20mya/30mya – darllenwch ddatganiad .
Os oes gennych unrhyw awgrymiadau penodol (ynghyd â rhesymau dilys) pam y dylai ffordd gael ei heithrio o’r terfyn cyflymder cenedlaethol 20mya, byddwn yn cofnodi’r adborth ac yn ei adolygu yn erbyn y canllawiau eithriadau newydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru – darllenwch y .
Bydd ymgynghoriadau ar unrhyw newidiadau arfaethedig yn digwydd ar ôl i’r rhannau unigol o’r ffordd gael eu hadolygu yn erbyn y canllawiau newydd.
Rhaid i unrhyw awgrymiadau sy'n ymwneud â hyn gynnwys rhesymau dilys pam yr ystyrir bod y newidiadau'n angenrheidiol.
Dylid cyflwyno pob gohebiaeth i TrafficManagement@blaenau-gwent.gov.uk erbyn dydd Llun 30ain Medi 2024. Bydd y ceisiadau'n cael eu hasesu yn erbyn canllawiau Llywodraeth Cymru a lle bernir bod newidiadau'n briodol, bydd y cynigion yn cael eu symud ymlaen yn unol â'r broses gyfreithiol gorchymyn rheoleiddio traffig.
Sylwch, ni fyddwn yn gallu cofnodi unrhyw sylwadau cyffredinol am y Polisi Cenedlaethol 20mya, gan mai mater i Lywodraeth Cymru a Gweinidogion Llywodraeth Cymru yw hynny.
Os yw eich adborth yn ymwneud â Chefnffordd, nid cyfrifoldeb yr Awdurdodau Lleol yw’r rhain, felly e-bostiwch TrunkRoads20mph@gov.wales Mae rhagor o wybodaeth am Gefnffyrdd ar gael ar .