Efallai fod Walter Conway yn enw cyfarwydd i drigolion Tredegar ym Mlaenau Gwent ond y tu allan i鈥檙 dref dyffryn hon mae鈥檔 llai adnabyddus. Fodd bynnag, mae cyfres o ddigwyddiadau yr wythnos hon yn amcanu at newid hyn.
Mae murlun wedi cael ei beintio ar ganolfan siopa鈥檙 dref lle mae portread hardd o Walter Conway wedi鈥檌 amgylchynu gan ddelweddau o leoliadau a oedd yn bwysig iddo. Mae鈥檙 rhain yn cynnwys Pwll Rhif 1 Pochin lle bu鈥檔 gweithio dan ddaear, Eglwys Bresbyteraidd Park Place lle鈥檙 oedd yn ddiacon ac yn athro, Swyddfeydd Cymorth Meddygol Tredegar a鈥檙 Feddygfa Ganolog.
Meddai鈥檙 arlunydd Paul Shepherd (Walls by Paul): 鈥楧yma鈥檙 pedwerydd i mi ei beintio yn y gyfres hon. Rwyf wedi dysgu cymaint am yr holl gymeriadau ac mae pob un wedi bod yn rhyfeddol yn ei rinwedd ei hun. Roedd hi鈥檔 ddifyr dod i wybod am r么l Walter yn iechyd a lles Tredegar a鈥檙 DU.鈥
Dadorchuddiwyd Plac Glas ar 1 Rawlinson Terrace, Tredegar, y cartref lle treuliodd Walter y rhan fwyaf o鈥檌 fywyd priodasol gyda鈥檌 deulu. Dadorchuddiwyd y plac gan Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Hen Wyresau Walter, Julie Watkin ac Allison Nutland.
Ganed Walter yn Rhymni ac roedd ganddo frawd iau. Yn drist, bu farw ei rieni鈥檔 ifanc, gan adael Walter a鈥檌 frawd yng ngofal Bwrdd y Gwarcheidwaid yn Wyrcws Bedwellte. Yma datblygodd ei gariad at lyfrau, yr oedd yn aml yn cyfeirio atynt fel ei ffrind gorau, a chafodd ei ddysgu i 鈥榳neud popeth yn dda鈥, mantra a arhosodd gydag ef trwy gydol ei fywyd.
Ar 么l gadael y wyrcws, symudodd i mewn i lety a daeth yn l枚wr ym Mhwll Rhif 1 Pochin. Priododd Walter 芒 Mary Elizabeth Morgan ym 1898 ac fe gafodd y cwpl 3 merch a mab. Roedd y teulu鈥檔 addoli yn Eglwys Bresbyteraidd Park Place lle鈥檙 oedd Walter yn Ddiacon ac yn Athro Ysgol Sul.
Ym 1908 fe鈥檌 hetholwyd i Fwrdd Gwarcheidwaid Bedwellte, y sefydliad a fu鈥檔 gyfrifol am ei ofal cynnar yn y wyrcws. Roedd Walter yn aelod cynnar o鈥檙 Blaid Lafur Annibynnol, gan ymuno i ddechrau ac yna dod yn un o aelodau cychwynnol cangen Tredegar ym 1911. Roedd Walter hefyd yn fentor i鈥檙 Aneurin Bevan ifanc. Ym 1920 fe wnaeth Walter a鈥檌 ffrindiau, gan gynnwys Aneurin Bevan ifanc, ffurfio Query Club, a oedd yn gymdeithas ddadlau sosialaidd.
Ond yn fwy na dim mae鈥檔 cael ei gofio fel ysgrifennydd Cymdeithas Cymorth Meddygol Gweithwyr Tredegar. Fe鈥檌 penodwyd ym 1915 a thros y 18 mlynedd nesaf tyfodd y Gymdeithas dan ei stiwardiaeth i fod yn un o鈥檙 cymdeithasau gorau, gan ddenu aelodaeth o ardal ehangach. Roedd Cymdeithas Cymorth Meddygol Gweithwyr Tredegar yn darparu gwasanaethau meddygol ar gyfer 20,000 o bobl leol, oddeutu 95% o boblogaeth y dref. Roedd y gymdeithas yn gweithredu meddygfeydd a oedd yn cyflogi 5 meddyg, 2 ddeintydd, nyrsys a staff cymorth.
Pan fu farw dywedodd yr AS lleol fod Walter 鈥榶n ymgorffori gwirionedd ac uniondeb a phopeth oedd yn dda ym mywyd Tredegar.'
Meddai鈥檙 Cyngh. John Morgan, yr Aelod Cabinet dros Le ac Adfywio: 鈥楻oedd Walter Conway yn arwr yn y dref hon. Mae cof annwyl amdano hyd heddiw. Pan sefydlodd Bevan y rhaglen adeiladu tai fwyaf yn y DU yn dilyn yr 2il Ryfel Byd, fe wnaeth y cyngor lleol enwi stryd er anrhydedd iddo 鈥 Walter Conway Avenue. Yn fwy diweddar mae Cyngor 抖阴精品 wedi gosod mainc 芒 cherfluniau yn y cylch sy鈥檔 edrych dros swyddfeydd y Gymdeithas Cymorth Meddygol ond yn awr rydym yn coffau ei le mewn hanes yn ffurfiol gyda鈥檙 Plac Glas hwn a murlun trawiadol yng nghanol y dref. Gobeithio bod hyn nid dim ond yn coffau鈥檙 hyn a gyflawnodd ond hefyd yn annog cenedlaethau newydd i archwilio鈥檙 hyn a gyflawnodd ac yn rhoi ysbrydoliaeth iddynt i ddilyn eu breuddwydion. Yn olaf, hoffwn ddiolch i Paul am y murlun anhygoel y mae wedi鈥檌 greu yng nghanol y dref ac i Marcus a Hayley, am ganiat谩u i ni osod y Plac Glas hwn ar eu cartref鈥.
Meddai Julie Watkin ac Allison Nutland, ei Hen Wyresau: 鈥楢c yntau wedi colli ei rieni pan oedd yn fachgen bach, cafodd Walter ei leoli yn Wyrcws Bedwellte lle datblygodd ei gariad at lyfrau a鈥檌 awch am wybodaeth. Yn ddiweddarach yn ei oes byddai鈥檔 dal i gyfeirio ato鈥檌 hun fel bachgen y wyrcws. Fel ysgrifennydd Cymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar roedd yn 鈥測mroddedig i waith y Gymdeithas鈥 ac yn 鈥測mgorffori popeth oedd yn dda ym mywyd Tredegar鈥. Mae Cymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar bellach yn cael ei chydnabod yn ffynhonnell llawer o鈥檙 syniadau newydd a radical ar gyfer gofal iechyd cyffredinol a fyddai鈥檔 esblygu鈥檔 Wasanaeth Iechyd Gwladol ryw bymtheng mlynedd ar 么l ei farwolaeth anhymig.鈥
Meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles: 鈥楳ae鈥檔 fraint nodi鈥檙 cyfraniad a wnaeth Walter Conway i iechyd y cyhoedd yn Nhredegar a鈥檌 r么l yn hanes ein GIG. Mae鈥檔 dda gennyf weld ei gyflawniadau鈥檔 cael eu dathlu heddiw. Roedd yn weinyddwr iechyd eithriadol a helpodd Gymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar i lwyddo, gan ysbrydoli Bevan a chenedlaethau aneirif wedi hynny.鈥
Cefnogwyd y murlun a鈥檙 plac gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Dylai ymwelwyr 芒 Thredegar ymweld ag Amgueddfa Tredegar yn Llyfrgell Tredegar a Chanolfan Dreftadaeth Cymdeithas Cymorth Meddygol Gweithwyr Tredegar hefyd. Mae鈥檙 ddwy wedi鈥檜 lleoli yn Y Cylch, calon treftadaeth y dref.
Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gorwyresau Walter, Julie Watkin ac Allison Nutland yn dadorchuddio鈥檙 Plac Glas. | Plac glas yn cael ei arddangos yn 1 Rawlinson Terrace, Tredegar lle鈥檙 oedd Walter yn byw. | |
O'r chwith i'r dde: Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, 抖阴精品, Y Cynghorydd John C Morgan Aelod Cabinet - Lleoedd ac Adfywio a Datblygu Economaidd 鈥 Cynghorydd 抖阴精品, Y Cynghorydd Jacqueline Thomas, Cynghorydd 抖阴精品, Chris Smith, Aelod Llywyddol a Hyrwyddwr Cydraddoldeb a Chynghorydd 抖阴精品, Tommy Smith. | Walter Conway - Ffotograff o Orwyresau Walter, Julie Watkin ac Allison Nutland gyda鈥檙 Plac Glas. | |
Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda鈥檙 Cynghorydd John C Morgan o Flaenau Gwent, Aelod Cabinet - Lleoedd ac Adfywio a Datblygu Economaidd o flaen murlun Walter Conway yng Nghanolfan Siopa Gwent, Tredegar. Murlun wedi'i baentio gan Paul Shepherd (Muriau gan Paul). | O鈥檙 chwith i鈥檙 dde: Prif Ferch Ysgol Gynradd Georgetown, Prif Fachgen a Phrif Ferch Ysgol Gyfun Tredegar, Prif Fachgen Ysgol Gynradd Georgetown, Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a鈥檙 Cynghorydd John C Morgan Aelod Cabinet - Lleoedd ac Adfywio a Datblygu Economaidd. |