抖阴精品

Agor Ystafell Addysg newydd yng Nghanolfan Gwastraff Cartrefi ac Ailgylchu, Roseheyworth

Cafodd Ystafell Addysg ei hagor yn swyddogol heddiw yn y Ganolfan Gwastraff ac Ailgylchu Cartrefi (HWRC) yn Roseheyworth, Abertyleri. Tu mewn i鈥檙 HWRC, mae鈥檙 ganolfan addysg mewn lleoliad delfrydol i alluogi plant ysgol a grwpiau cymunedol i ddysgu am ailgylchu a鈥檙 hyn sy鈥檔 digwydd i鈥檙 deunyddiau.

Cafodd yr Ystafell Addysg ei hadeiladu gyda chyllid Economi Cylchol Llywodraeth Cymru. Defnyddiwyd cais llwyddiannus arall i 鈥楥adwch Cymru鈥檔 Daclus鈥 am becyn bywyd gwyllt i ddatblygu鈥檙 tir o amgylch er budd bywyd gwyllt lleol.

Eisoes mae nifer o bartneriaid Cyngor 抖阴精品 wedi dangos diddordeb mewn defnyddio鈥檙 adeilad ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau yn cynnwys Llyfrgell Cewynnau, cyfarfodydd Cymunedol a鈥檙 Caffe Trwsio.

Mae鈥檙 adeilad yn cynnwys llawer o eitemau mewnol a gafodd eu hadfer sydd wedi helpu i ostwng y gost. Cafodd yr holl ddrysau, celfi, setiau teledu, cadeiriau, byrddau a loceri eu hailgylchu o鈥檙 Ganolfan Ddinesig cyn dymchwel yr adeilad. Cafodd yr effaith pren llosg ar du allan yr adeilad ei sicrhau drwy ddefnyddio pren o鈥檙 safle ailgylchu.

Dywedodd y Cynghorydd Helen Cunningham, Dirprwy Arweinydd / Aelod Cabinet - Lle ac Amgylchedd:
鈥淏ydd y Ganolfan Addysg yn rhoi cyfleoedd i ysgolion a grwpiau cymunedol ar draws 抖阴精品 i ddysgu mwy am ailgylchu, ailddefnyddio a鈥檙 economi cylchol. Mae gan addysg r么l hanfodol mewn hyrwyddo a chynyddu dealltwriaeth o鈥檙 hyn sy鈥檔 digwydd i鈥檙 gwastraff a gynhyrchwn ac annog ailgylchu ac ailddefnyddio. Rydym yn falch i gael y cyfleuster hwn er budd y gymuned ac i ymateb i鈥檙 argyfyngau hinsawdd a natur.鈥

Agoriad swyddogol yr Ystafell Addysg newydd yng Nghanolfan Gwastraff Cartrefi ac Ailgylchu, Roseheyworth, yr Aelod Llywyddol y Cynghorydd Chris Smith a鈥檙 Cynghorydd Helen Cunningham, Dirprwy Arweinydd/Aelod Cabinet (ar y dde) gyda phartneriaid yn y digwyddiad lansio. Cafodd yr Ystafell Addysg ei hagor yn swyddogol heddiw yn y Ganolfan Gwastraff ac Ailgylchu Cartrefi (HWRC) yn Roseheyworth, Abertyleri.